Hwb Tystiolaeth Lles Ariannol
Croeso i'r Hwb Tystiolaeth
Mae ein hwb tystiolaeth lles ariannol yn cynnwys tystiolaeth, mewnwelediadau a dysgu i'ch helpu i ddylunio eich ymyriadau, ariannu rhaglenni a llywio polisïau.
Nod yr hwb yw gwneud tystiolaeth a mewnwelediadau yn haws i'w canfod a'u deall. Mae'r holl dystiolaeth a gynhwysir yn ymwneud â lles ariannol - gallwch weld y meini prawf cynhwysiant am ragor o fanylion.
Gwybodaeth ategol
Rydym hefyd wedi creu ychydig o dudalennau i esbonio cynnwys yr hwb ymhellach:
Cysylltu â ni
Rydym bob amser yn ceisio gwella'r hwb a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio'n dda i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. E-bostiwch ni ar [email protected]
Ymwadiad
Mae ymchwil am les ariannol yn cael ei gynnal neu ei ariannu gan ystod eang o sefydliadau, sy'n cyfrannu at sylfaen dystiolaeth iach a chynyddol. Mae ein hwb tystiolaeth yn eich helpu i ddeall yr astudiaethau hyn, ac rydym ond yn cyhoeddi ymchwil sy'n dryloyw o ran ei darddiad a'i ddulliau. Nid yw hyn yn gymeradwyaeth o'r sefydliad a gynhaliodd neu a wnaeth ariannu'r ymchwil hyn.


